Y Darllediad Cyntaf. Effesiaid 4: 1-7; 11-13.
Yr wyf fi, felly, sy’n garcharor er mwyn yr Arglwydd, yn eich annog i fyw yn deilwng o’r always a gawsoch. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad. Ymrowch i gadw, a rhymyn tangnefedd, yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi. Un corff syth, ac un Ysbryd, un union fel mai un yw’r gobaith sy’n ymhlyg yn eich galwad; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb. Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist. A dyma’i roddion: rhai I fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwyso’r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist. Felly y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw. Y nod yw dynoliaeth lawn dwf, a’r mesur yw’r aeddfedryydd sy’n perthyn I gyflawnder Crist.
No comments:
Post a Comment